Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a
Bwyd
Rydw i'n falch i gyhoeddi bod y Rheoliadau drafft a
fydd yn ei gwneud hi’n orfodol i osod microsglodyn ar bob ci
yng Nghymru wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w
hystyried. Cynhelir trafodaeth ar hyn yn y Cyfarfod Llawn ar 27
Hydref.
Wrth fynd â nhw yn eu blaen, gwnaethom gyflwyno
ein Rheoliadau drafft, ynghyd â'r Asesiad Effaith
Rheoleiddiol, i'r Aelod-wladwriaethau drwy'r Comisiwn Ewropeaidd.
Cafwyd cyfnod o aros o 3 mis ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau
gan yr Aelod-wladwriaethau na'r Comisiwn
Ewropeaidd.
Rydym bellach yn mynd ati i gyflwyno'r drefn orfodol
o osod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru ym mis Ebrill 2016; mae
hyn yn unol â'r dyddiad a gyhoeddwyd ar gyfer cyflwyno'r
drefn orfodol o osod microsglodyn ar gŵn yn yr Alban
ac yn Lloegr.
Mae
fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion cyfatebol
yn Lloegr ar faterion trawsffiniol gan fod cŵn yn cael eu
symud dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn rheolaidd. Rydw i'n gallu
gweld y manteision a ddaw o gydweithio'n agos. Hefyd, o gofio bod y
rhai sy'n cynnig gwasanaethau microsglodynnu yn gweithio ledled
Cymru a Lloegr, mae gofyn cysoni safonau a chyd-drefnu’n
gwaith yng Nghymru a Lloegr.
Mae lles anifeiliaid yn un o flaenoriaethau
Llywodraeth Cymru a hynny'n unol â’r Fframwaith Iechyd
a Lles Anifeiliaid. Credir yn gryf y bydd gosod microsglodion yn
cael effaith bositif ar y drefn o gysylltu cŵn â'u
perchnogion, ac yn y pendraw, yn cysylltu’r cŵn yn
ôl at y bridwyr. Bydd hynny'n annog perchnogion i fod yn fwy
cyfrifol.